Mudiad Meithrin yw’r prif ddarparwr gofal ac addysg cyfrwng Cymraeg yn y sector wirfoddol drwy rwydwaith genedlaethol o gylchoedd meithrin, cylchoedd Ti a Fi, gofal cofleidiol a meithrinfeydd dydd cyfrwng Cymraeg.

Sefydlwyd Mudiad Meithrin ym 1971. Ein prif nod yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.  Credwn hefyd ei bod yn bwysig sicrhau cyfle i bob plentyn elwa o brofiadau a gweithgareddau blynyddoedd cynnar yn ei gymuned leol.

Erbyn hyn, mae yna 501 o gylchoedd meithrin yn cynnig sesiynau gofal ac addysg ddyddiol ar gyfer plant 2 - 5 mlwydd oed a 49 meithrinfa dydd yn darparu gofal dydd llawn i blant ar draws Cymru. Mae 292 o gylchoedd Ti a Fi ledled Cymru sy’n cynnig cyfle gwych i blant o enedigaeth hyd at oed ysgol a’u rhieni gwrdd unwaith yr wythnos i gymdeithasu ac i rannu profiadau gyda’i gilydd mewn awyrgylch anffurfiol Gymreig.  Mae’r gwasanaethau yn darparu profiadau blynyddoedd cynnar i oddeutu 19,000 o blant bob wythnos. 

Mae 145 grŵp ‘Cymraeg i Blant’, sydd yn annog rhieni i gymryd y camau cyntaf tuag at gyflwyno’r Gymraeg i’w plant yn cwrdd mewn lleoliadau ar draws Cymru. Ers Ebrill 2016, mae 817 o rieni ac 860 plentyn wedi manteisio ar y cyfleoedd hyn.

O ganlyniad, rydym yn gweithio gyda phlant a theuluoedd o amryw o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd. Rydym yn cydweithio gyda’r asiantaeth Dechrau’n Deg i ddarparu cyfleoedd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, a gyda’r awdurdodau addysg leol i gynnig llefydd addysg rhan amser i blant 3 oed yn eu cymuned leol.

Yn ogystal, mae’r is-gwmni Cam wrth Gam, yn darparu hyfforddiant cyfrwng Cymraeg i ennill cymwysterau blynyddoedd cynnar.  Gwnaed hyn drwy gyd-weithio ag ysgolion uwchradd i ddarparu cyrsiau i ddisgyblion ysgol, a thrwy’r cynlluniau hyfforddi cenedlaethol.  Darperir cyrsiau hyfforddi yn seiliedig ar ddysgu yn y gweithle gan rwydwaith o diwtoriaid, aseswyr a dilyswyr mewnol ledled Cymru.

Er mwyn cyflawni hyn, mae Mudiad Meithrin yn elusen gofrestredig sy’n cyflogi dros 200 o bobl, yn staff cenedlaethol a sirol ac mewn meithrinfeydd dydd, gyda 2000 o staff ychwanegol yn gweithio yn y cylchoedd ei hunain. 

Cefnogir y cylchoedd gan rwydwaith cenedlaethol o staff proffesiynol sy’n eu cynghori ar amrediad o faterion er enghraifft hybu ymarfer da, hyfforddiant staff a chyswllt ag awdurdodau Lleol.  Yn ogystal, mae’r Mudiad yn gweithio yn agos iawn gyda rhieni er mwyn darparu cymorth a chyngor i’w galluogi i ddatblygu a chefnogi gwaith y cylchoedd yn y cartref.

1.1     Cydnabuwn fod y 1,000 Diwrnod Cyntaf ym mywyd plentyn, yn gyfnod hollbwysig sydd yn gosod y sylfaen ar gyfer datblygiad gwybodol, emosiynol ac iechyd gydol oes yr unigolyn. 

1.2     Cyfeirir at y ffaith bod ymennydd plentyn yn datblygu’n gyflym yn ystod y blynyddoedd cynnar i fod yn 75% o faint ymennydd oedolyn erbyn diwedd yr ail flwyddyn .   Nodwn fod hyn yn ategu pwysigrwydd sicrhau cefnogi datblygiad sgiliau cymdeithasol, ddeallusrwydd emosiynol, sgiliau ymddygiadol cadarnhaol yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn.

2.1     Cefnogwn ymgyrch Lywodraeth Cymru ‘Magu Plant: Rhowch amser iddo’ .  Teimlwn fod yr ymgyrch hon yn cynnig syniadau ymarferol defnyddiol ar ystod eang o bynciau rhianta.  Nodwn bwysigrwydd presenoldeb digidol yr ymgyrch drwy amryw o rwydweithiau cymdeithasol er mwyn denu sylw a rhaeadru’r negeseuon pwysig hyn.

2.2     Croesawn ddyfodiad y ddeddfwriaeth fydd yn diogelu plant yn yr un modd ag oedolion, drwy gael gwared ar "gosb resymol" fel amddiffyniad am guro plentyn.  Gwelwn ddefnydd theori pwtio i hyrwyddo technegau rheoli ymddygiad amgen, drwy’r ymgyrch ‘Magu Plant: Rhowch amser iddo’ yn hollbwysig yn y cyfnod hwn.  Serch hynny, cynigiwn fod angen amlygu’r newidiadau cyfreithiol arfaethedig drwy’r cyfryngau, er mwyn sicrhau ymwybyddiaeth eang ohonynt.

2.3     Cynigiwn y byddai gwneud cefnogaeth rhianta yn gynnig cyffredinol yn ystod 1,000 diwrnod cyntaf y plentyn yn lleihau’r stigma posib o fod yn mynychu neu yn derbyn unrhyw wasanaeth.  Nodwn y byddai hyn yn bosib ond wrth gynyddu gapasiti’r gweithlu i ddarparu’r gefnogaeth cyffredinol hyn.

3.1     Cytunwn fod gan dadau rôl allweddol yn natblygiad plant.  Croesawn gyhoeddiad y canllaw arfer dda ‘Strategaethau ar gyfer gweithio gyda thadau’  fel rhan o ymgyrch ‘Magu Plant: Rhowch amser iddo’.  Gwelwn yr angen i rannu a datblygu’r arfer dda ar draws y  sector, o’r gwasanaethau iechyd cyn-geni, gwasanaethau gofal ac addysg gynnar i deuluoedd, ac i’r sector gwirfoddol sy’n darparu gweithgareddau teuluol.

4.1     Gwelwn nifer o raglenni ym maes iechyd a gofal y blynyddoedd cynnar sydd yn hyrwyddo dulliau cadarnhaol o reoli ymddygiad, ac yn benodol hyfforddiant rhaglenni ‘Blynyddoedd Rhyfeddol’ yn ardaloedd Dechrau’n Deg.  Cytunwn fod cynnwys y cyrsiau hyn fel elfen o waith Dechrau’n Deg yn cael effaith bositif ar sgiliau rhianta cadarnhaol y rhieni sydd yn mynychu’r hyfforddiant a ddarperir, ac ar aelodau’r gweithlu sydd wedi medru manteisio ar yr hyfforddiant hwn.

4.2     Serch hynny, nid ydy pob rhiant, na phob gweithiwr blynyddoedd cynnar, yn cael y cyfle i fanteisio ar y gefnogaeth werthfawr hon.  Nodwn yr angen i alluogi pob rhiant neu warchodwr i fanteisio cefnogaeth o’r fath.  Cynigiwn y gellid gwneud hyn drwy gynnig hyfforddiant i’r gweithlu blynyddoedd cynnar ehangach i’w galluogi i gynnig y gefnogaeth hon i rieni.   Nodwn hefyd yr angen i hyfforddi aelodau newydd o’r gweithlu iechyd a gofal blynyddoedd cynnar yn gyson, er mwyn eu galluogi i gynorthwyo’r rhieni yn briodol.

5.1     Cydnabuwn yr angen i wella canlyniadau ar gyfer iechyd plant yng Nghymru.  Croesawn ddatblygiad rhaglen ‘Plant Iach Cymru’ , sydd yn ymrwymo i hybu iechyd a lles pob plentyn o’r cyfnod cyn-geni hyd 7 oed.  Yn benodol, croesawn yr ymgais i ddatblygu dull Cymru gyfan o wyliadwriaeth ar blant.  Teimlwn y bydd hyn yn hwyluso cyd-weithio rhyngasiantaethol i hybu iechyd plant a’u teuluoedd yn gynnar ym mywyd plentyn.

5.2     Croesawn hefyd cynllun ’10 cam i bwysau iach’  Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gwelwn negeseuon pwysig i weithwyr proffesiynol y blynyddoedd cynnar rhaeadru i deuluoedd.  Rydym eisoes yn cyd-weithio i hyrwyddo prif negeseuon y cynllun hwn drwy ein rhwydwaith cenedlaethol o gylchoedd Ti a Fi a grwpiau Cymraeg i Blant. 

5.3     Nodwn bwysigrwydd hyrwyddo bwyta’n iach a gweithgarwch corfforol yn ystod cyfnod beichiogrwydd y fam.  Cyfeiriwn yn benodol at ‘Adroddiad Blynyddol Prif swyddog Meddygol Cymru 2015-16’ , sy’n nodi y dylai ymyriadau ymdrin â ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol wrth annog byw’n iach.  Er y cynigir rhai enghreifftiau yn y cyhoeddiadau swyddogol a dosberthir i ddarpar rieni, cynigiwn y byddai rhannu enghreifftiau penodol o weithgareddau ac o fwydlen o ryseitiau syml o gymorth i nifer o rieni. 

5.4     Cynigiwn y byddai modd adeiladu ar lwyddiant y cynllun Cyn-Ysgol Iach a Chynaliadwy , sydd yn annog lleoliadau gofal ac addysg blynyddoedd cynnar i ymrwymo i hyrwyddo pwysigrwydd gweithgarwch corfforol a bwyta’n iach i’r plant lleiaf.  Byddwn yn croesawi gyd-weithio rhyngasiantaethol drwy’r gweithlu iechyd a gofal blynyddoedd cynnar sydd yn darparu cefnogaeth i rieni ac i ddarpar rieni yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf i gyflawni hyn.

5.5     Nodwn le i gyd-weithio gyda phartneriaid ym maes y blynyddoedd cynnar i rannu’r negeseuon hyn yn ehangach drwy’r cyfryngau digidol a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol.  Fyddai hyn yn cyd-fynd gydag adroddiad diweddar Iechyd Cyhoeddus Cymru ‘Gwneud Gwahaniaeth: Buddsoddi mewn Iechyd a Llesiant Cynaliadwy i Bobl Cymru’ , sydd yn nodi bod buddsoddi mewn ymyriadau cyffredinol ar draws y boblogaeth yn gost-effeithiol ac yn hanfodol er mwyn sicrhau Cymru iach a chynhyrchiol.

6.1     Cytunwn gyda phwysigrwydd lleihau effaith andwyol materion seicogymdeithasol ar y plentyn.  Nodwn yr angen i ystyried y plentyn fel rhan o’r teulu ehangach, ac o sgil-effeithiau sefyllfa’r teulu ehangach ar ddatblygiad y plentyn.

6.2     Cyfeiriwn at adroddiad diweddar gan LSE a’r Ganolfan Iechyd Meddwl yn nodi costau ariannol problemau iechyd meddwl amenedigol .  Nodwyd fod cyfran uchel o’r costau hyn i’w wneud ag effeithiau negyddol ar y plentyn ac nid ar y fam yn uniongyrchol. 

6.3     Yn atodol, cyfeiriwn at y diffyg mewn timoedd arbenigol yn y maes, a’r ffaith nad oes yr un uned arbenigol i gefnogi’r Fam a’r Plentyn yng Nghymru .  Pryderwn fod hyn yn golygu nad ydy’r ddarpariaeth bwysig hwn ar gael yng Nghymru, nac yn y Gymraeg i’r mamau hynny sydd ei hangen.

7.1     Ceir consensws trawsbleidiol o’r angen i drechu tlodi ac i leihau effeithiau niweidiol tlodi ar ddatblygiad plant a theuluoedd. I’r perwyl hwn, cynigiwn y byddai cefnogi a hyfforddi’r sector gofal blynyddoedd cynnar i fynd i’r afael ag effeithiau tlodi y tu hwnt i ardaloedd dynodedig Dechrau’n Deg yn ffordd o ymestyn cyrhaeddiad agweddau penodol o’r cynllun presennol.

7.2     Nodwn yr angen i brif-ffrydio elfennau o waith y cynllun Dechrau’n Deg.  Cyfeiriwn yn benodol at gynlluniau sydd yn cefnogi rhieni a gwarchodwyr i gefnogi datblygiad iaith a lleferydd eu plant megis ‘Iaith a Chwarae’, ‘Rhif a Chwarae’ a chyrsiau arbenigol pwrpasol i rieni a gwarchodwyr.  Cynigiwn y byddai galluogi’r gweithlu blynyddoedd cynnar ehangach i fedru darparu’r cyrsiau hyn y tu hwnt i’r ardaloedd Dechrau’n Deg penodedig yn cyfrannu at leihau anghydraddoldebau addysgol dysgwyr o gefndiroedd amddifadus eraill.

1        Nodwn bwysigrwydd dilyn arweiniad y Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd, a chomisiynu ymchwil pwrpasol ar gefnogi datblygiad iaith mewn lleoliadau a theuluoedd dwyieithog yng Nghymru.

7.4     Nodwn fod sgil-effeithiau byw mewn tlodi neu anniogelwch ariannol yn cael effaith ar iechyd meddyliol teuluoedd ar draws Cymru.  Croesawn felly gyhoeddiad diweddar y ‘Cynllun Cyflenwi Cynhwysiant Ariannol’ .

7.5     Mae gweithwyr y blynyddoedd cynnar yn dod i gyswllt gyda theuluoedd yn rheolaidd.  Nodwn y byddai datblygu hyfforddiant pwrpasol ar gyfer y gweithlu blynyddoedd cynnar, sy’n eu galluogi i adnabod y ffactorau sydd yn awgrymu anniogelwch ariannol, a’u galluogi i gyfeirio’r unigolion at gefnogaeth leol yn medru cyfrannu tuag at weledigaeth y cynllun hwn.

7.6     Nodwn bwysigrwydd sicrhau ystyriaeth benodol i blant anabl a’u teuluoedd yn y cyfnod cynnar pwysig hwn.  Yn ogystal â’r straen ychwanegol mae magu plentyn anabl yn gosod ar deuluoedd, rhaid cofio bod teuluoedd yn gwynebu costau ychwanegol, ac o ganlyniad bod plant anabl yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi ariannol .

8.1     Teimlwn yn gryf fod mynediad at ddarpariaeth blynyddoedd cynnar fforddiadwy o ansawdd uchel yn cyfrannu at ddatblygiad plant a llesiant emosiynol a chymdeithasol y plant a’u teuluoedd.  Nodwn bwysigrwydd sicrhau bod y rhain yn cael eu darparu yn lleol, gan fod tlodi trafnidiaeth yn rhwystro nifer o deuluoedd rhag teithio i fanteisio ar wasanaethau mewn trefi a chanolfannau canolog.

8.2     Nodwn bwysigrwydd sicrhau bod yna amrywiaeth o ddarpariaethau blynyddoedd cynnar yn cynnig gwasanaethau i deuluoedd yn y 1,000 diwrnod cyntaf yn cynnwys grwpiau wythnosol i blant a’u gwarchodwyr megis grwpiau Cymraeg i Blant a chylchoedd Ti a Fi, meithrinfeydd dydd a gwarchodwyr plant ledled Cymru. 

8.3     Nodwn ein bod, fel Mudiad Meithrin, yn cyfrannu tuag at ddarparu cyfleoedd eang i gefnogi datblygiad plant a’u llesiant emosiynol a chymdeithasol drwy’r rhwydwaith cenedlaethol o gylchoedd Ti a Fi a grwpiau Cymraeg i Blant.  Mae’r grwpiau cymunedol wythnosol hyn yn cynnig cyfleoedd i deuluoedd i gymdeithasu yn eu hardal leol. 

8.4     Mae’r grwpiau a chylchoedd hyn yn cynnig amryw o gyfleodd i blant a’u rhieni/gwarchodwyr i ddatblygu ystod o sgiliau drwy’r profiadau maent yn eu derbyn yn y grwpiau a’r cylchoedd hyn.  Yn aml, dyma’r cyswllt cyntaf sydd gan deuluoedd i weithwyr proffesiynol y tu allan i’r gwasanaeth iechyd yn gynnar ym mywyd eu plant.  Er mwyn medru adeiladu ar yr arfer dda sydd yn bodoli, nodwn yr angen i sicrhau buddsoddiad ariannol i’r gweithlu er mwyn eu galluogi i ddatblygu ac ymestyn eu sgiliau  proffesiynol.

8.5     Gwelwn yr angen i ddatblygu strategaeth sydd yn sicrhau mynediad teg a chyfartal at y gwasanaethau craidd hyn.  Nodwn bwysigrwydd sicrhau bod strategaeth o’r fath yn seiliedig ar hawliau plant yn ogystal ag ystyriaethau economaidd lleol a chenedlaethol.

8.6     Yn atodol, nodwn yr angen i gynllunio ar gyfer cynyddu capasiti’r gweithlu i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg yn y 1,000 diwrnod cyntaf.  Er mwyn gwireddu gweledigaeth Lywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae angen buddsoddiad ariannol sylweddol yn y maes.

8.7     Mae gwaith ymchwil yn dangos bod y plant sy’n mwynhau’r manteision pennaf o fod yn ddwyieithog yw’r plant hynny sy’n cael eu cyflwyno i fwy nag un iaith o’u genedigaeth a chyn iddyn nhw fod yn 5 oed. 

8.8     Mae gweithgareddau’r grwpiau Cymraeg i Blant yn codi ymwybyddiaeth rhieni o fanteision dwyieithrwydd cynnar ac o fuddion gofal ac addysg Gymraeg a chyflwyno’r Gymraeg yn gynnar i’w plant.  Ategir y gwaith gwerthfawr hwn yn y cylchoedd Ti a Fi, ac yn y cylchoedd meithrin ledled Cymru.

8.9     Nodwn yr angen i godi ymwybyddiaeth ymhlith y gweithlu iechyd megis Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd am fanteision dwyieithrwydd cynnar ac addysg cyfrwng Cymraeg.  Pwysleisiwn bwysigrwydd sicrhau argaeledd y gwasanaethau hyn yn Gymraeg i bob cymuned yng Nghymru. 

8.10   Pan fo amheuaeth fod gan blentyn / babi anghenion dysgu ychwanegol dylid sicrhau fod unrhyw ymyrraeth, wasanaeth neu gefnogaeth yn cael ei ddarparu yn iaith ddewisol y teulu a’r plentyn.  Croesawn yr egwyddor hon yn y mesur ADY 2017, a bydd angen buddsoddiad ariannol yn y maes i sicrhau gweithlu cymwys i asesu anghenion ychwanegol plant ac i ddarparu'r gefnogaeth briodol iddynt.

9.1     Mae’n bwysig cofio nad pob rhiant neu warchodwr sydd yn medru manteisio ar wasanaethau a ddarperir yn ystod oriau gwaith arferol.  Mae’r cyfnod 1,000 diwrnod cyntaf plentyn yn cynnwys cyfnodau hir ble gall y rhieni neu warchodwyr fod yn y gwaith.  O ganlyniad, nid ydy’r teuluoedd hyn yn medru manteisio ar gynlluniau cefnogaeth a ddarperir yn ystod oriau ysgol yn unig.

9.2     Golyga hyn fod darparwyr gwasanaethau gofal blynyddoedd cynnar yn medru cefnogi datblygiad iaith a lleferydd, emosiynol a chymdeithasol y plentyn tra’i bod yn mynychu’r ddarpariaeth, ond nid ydynt yn medru cynnig cefnogaeth i’r teulu estynedig.

9.3     Nodwn hefyd fod oriau gwaith rhieni a gwarchodwyr yn gallu bod yn rhwystr i fynychu clinigau agored a gynhelir gan Ymwelwyr Iechyd, ac i fedru mynychu apwyntiadau ar gyfer imiwneiddio plant ble gynhelir y clinigau ar ddiwrnodau neu amseroedd penodol yn unig